Ymateb y Llywodraeth: Y Cod ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd gan Awdurdodau Lleol

Ymateb i waith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

1.   Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno y byddai’n fuddiol cyfeirio at y gwahaniaeth hwnnw yn benodol  yn y Cod, ac felly bydd yn gwneud mân ddiwygiadau i’r Cod drafft er mwyn ei gwneud yn glir mai diwygiad o God blaenorol ydyw.

2.    Rydym yn derbyn y gall geiriad paragraffau 34 a 42 fynegi gwahaniaeth di-fudd rhwng cymhwysedd Deddf Cydraddoldeb 2010 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i awdurdodau lleol. Felly bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mân ddiwygiadau i’r Cod drafft i egluro y dylai unrhyw ddeunydd a gynhyrchir gan awdurdodau lleol gael ei gynhyrchu yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

 

3.    Bydd y camgymeriad ym mharagraff 19 o’r Cod yn cael ei gywiro fel bod y fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg yn darllen “adran 142(1A) o Ddeddf 1972”.